Wrth i’w gyflwr ddirywio, roedd Mr Hughes angen peiriant i gyfathrebu, ond bu’n rhaid i’r teulu frwydro i gael yr offer yn ei famiaith.
“‘Nathon ni gyrraedd y pwynt lle o’dd o methu cyfathrebu’n hawdd iawn efo ni, d’odda ni methu ei ddallt o, a felly o’dd o angen peiriant i siarad drosto fo.
“Yn anffodus doedd hwnnw ddim ar gael yn Gymraeg.”
Dywedodd Sian fod ei mam wedi llwyddo i gael y feddalwedd yn y Gymraeg i’w thad “ond ma’ honna’n frwydr na ddylai rhai sydd yn y sefyllfa yna orfod cael”.
Cyn hynny roedd “Dad yn gorfod cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg yn ei ben ac o’dd hynny’n mynd a dwywaith ei egni.
“I ddyn gwael, mae’n cael dipyn o effaith.
“O’dd o’n mynd yn rhwystredig, yn drist ac yn crio.
“O’dd o’n mynd a’i holl egni i wneud rhywbeth na ddyla’ fo orfod gwneud achos mae’n hawl sylfaenol i gael y petha’ yma yn y Gymraeg.”

















































