Mae nifer o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi yn dilyn tân yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi ei ddynodi’n “ddigwyddiad difrifol”.
Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn delio â’r fflamau yn ardal Rhandirmwyn ger Llanymddyfri ers 12:45 brynhawn Mercher.
Yn ôl Gwasanaeth Tân Gorllewin a Chanolbarth Cymru mae’r tân yn effeithio ar 250 hectar o dir, ac mae’n cael ei drin fel digwyddiad difrifol oherwydd “graddfa, cymhlethdod ac effaith bosib” y sefyllfa.
Mae’r tân yn Llanymddyfri’n un o nifer sy’n llosgi ar draws y wlad – gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n gofyn am gymorth milwrol er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Cadarnhaodd Llywdoraeth Cymru ddydd Gwener eu bod wedi cytuno i hyn ac yn “hynod ddiolchgar i’r fyddin am ddarparu’r gefnogaeth ychwanegol”.
Mewn ymateb i’r tân yn Llanymddyfri mae Cyngor Sir Gâr wedi trefnu lloches yng nghanolfan hamdden y dref ar gyfer unigolion a fu’n rhaid gadael eu cartrefi nos Iau wrth i’r fflamau nesáu.
Bu’n rhaid gwagio’r tai “rhag ofn”, medd y gwasanaeth tân “oherwydd agosrwydd y tân”.














































