Mae Angharad yn cytuno efallai na fydd ysgolion Saesneg yn cynhyrchu siaradwyr rhugl, ond mae’n bwysig, meddai, i gyflwyno’r iaith i’r plant.
“Mae gyda nhw ddigon o Gymraeg i ddefnyddio yn yr ardal ond gallai’r llywodraeth wneud mwy gyda hyfforddiant i athrawon eraill.
“Es i ar y cwrs Cymraeg mewn blwyddyn ac mae e wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fi a’r plant. Os yw’r athrawon yn cael hyfforddiant maen nhw’n gallu rhannu’r iaith hefyd.”
Mae Dyfodol i’r iaith yn poeni fod darpar athrawon yn cael eu colli am fod Llywodraeth Cymru yn ariannu myfyrwyr prifysgol i gael eu haddysg dros y ffin.
“Dwi’n ofni bod ariannu myfyrwyr i fynd i Loegr a mannau eraill i astudio yn bwrw yn erbyn unrhyw obaith sydd gyda ni o gael digon o athrawon,” meddai Heini Gruffudd.
“Bydd y bil yn gwneud dim oni bai bod polisïau felly yn cael eu newid.”
Wrth ymateb i gyhoeddi Bil y Gymraeg ac Addysg heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud fod y llywodraeth yn “colli cyfle mewn cenhedlaeth” i osod nod hirdymor bod pob plentyn yn cael addysg Gymraeg.
Maen nhw’n dweud mai eu “blaenoriaeth” nhw yn y misoedd nesaf “fydd cryfhau’r ddeddfwriaeth yn ystod ei thaith trwy’r Senedd”.














































