Yn y pen draw, fe dyfodd yn rhy fawr. Gyda chymaint o bobl yn heidio i dref fechan roedd pwysau ar gyfleusterau a phroblemau thraffig.
Gyda’r enwau adnabyddus daeth y pebyll mawr i sicrhau cynulleidfa fwy, gan newid naws yr ŵyl. Daeth y digwyddiad yn esgus i rai dreulio’r penwythnos yn yfed yn hytrach na gwrando ar gerddoriaeth – a thrafferthion cymdeithasol yn sgil hynny.
Meddai Roger: “Roedd lot o ffans jazz a phobl leol wedi dadrithio efo hyn. Pan mae ‘na noddwyr mawr maen nhw’n tueddu i yrru pethau a mynd i gyfeiriad penodol.”
“Wnaeth o arwain i nifer o bobl leol ddweud ‘dyna’r penwythnos dwi’n mynd i ffwrdd’,” ychwanegodd Lynne.
Mae’r ŵyl wedi wynebu trafferthion ariannol dros y blynyddoedd a chael ei hachub fwy nag unwaith. Pan wnaeth cwmni digwyddiadau benderfynu rhoi’r gorau i drefnu’r ŵyl yn 2015 roedd pryderon eto y byddai’n dod i ben.
Ond daeth y gymuned leol, gan gynnwys Lynne a Roger a Chlwb Jazz Brecon, i’r adwy a chymryd yr awenau.













































