Mae dyn o Flaenau Ffestiniog a dreuliodd dros 100 diwrnod mewn carchar yng ngorllewin Affrica wedi dychwelyd adref ar ôl “profiad gwaethaf fy mywyd”.
Cafodd Paul Inch, 50, a’i gydweithiwr Richard Perham, 29 o Fryste, eu cyflogi gan gwmni i fynd i Guinea i ganfod balŵn ymchwil oedd wedi dod i lawr yno.
Ond cafodd Mr Inch a Mr Perham – arbenigwyr ar chwilio ac adfer eitemau o’r fath – eu harestio a’u cyhuddo o ysbio.
Roedd y ddau i fod yn y wlad am bedwar diwrnod, ond yn y pendraw fe dreulion nhw 142 diwrnod yno – y mwyafrif o’r rheiny yn y carchar.
“O’dd o’n ddychrynllyd – profiad gwaethaf fy mywyd,” meddai Mr Inch.
Fe wnaeth yr Arglwydd Collins, Gweinidog Swyddfa Dramor sy’n gyfrifol am Affrica, groesawu’r ffaith bod y ddau wedi dychwelyd adref ar ôl eu “profiad hir” yn Guinea.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu â’r awdurdodau yn Guinea am sylw.

















































