Nôl yn 2004 roedd Yws Gwynedd yn cofio bod yn nerfus gefn llwyfan cyn perfformio am y tro cyntaf ym Maes B.
Y tro hynny, roedd yn brif leisydd y band Frizbee, oedd ond wedi ffurfio ychydig fisoedd ynghynt.
Eisteddfod Casnewydd oedd y lleoliad, ac roedd y band ifanc o Flaenau Ffestiniog ar fin gwireddu breuddwyd.
Eleni mae Yws yn perfformio eto ym Maes B, ugain mlynedd ers ei ymddangosiad cyntaf, nid gyda Frizbee a ddaeth i ben yn 2008, ond gyda’i fand ei hun.
“Dwi ddim yn cofio dim am y perfformiad nôl yn 2004. Dim ond teimlo’n nerfus cyn y perfformiad a siarad efo Radio Cymru wedyn,” meddai.
Erbyn hyn mae Yws Gwynedd yn un o artistiaid mwyaf poblogaidd y sin cerddorol yng Nghymru.
Prin oedd yn disgwyl y base’n perfformio ym Maes B 20 mlynedd ers y tro cyntaf.
“Dwi’n cofio roedd y gig yn y Newport Arena, adeilad anferth lle oedd ‘na lot o gigs mawr yn digwydd yno ar y pryd.
“Dwi ddim hyd yn oed yn cofio pwy oedd on ru’n pryd a ni, dwi eisiau deud Anweledig ond dwi ddim yn gant y cant yn saff,” meddai.


















































