Yn ôl y cynghorydd Glynog Davies, aelod cabinet Plaid Cymru dros addysg, pa bynnag un o’r ddau opsiwn newydd fydd yn cael ei ddewis, byddai’n fwy na’r un a gafodd ei ohirio – sef ysgol i 120 o ddisgyblion.
Yn ôl Owen Jenkins, rhaid peidio anghofio’r straen mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi ei gael ar gymuned yr ysgol.
“Ni’n hapus dros ben nawr bod ‘na gynlluniau positif wrth i ni symud ymlaen, ond pan chi’n adlewyrchu dros y flwyddyn ddiwethaf, nid yn unig y straen mae fe wedi gosod ar holl gymuned yr ysgol ond hefyd mae e’n dangos dyfnder y teimladau tuag at yr ysgol.
“Mae’r holl gymuned tu hwnt i ffiniau’r ysgol wedi ymateb a dweud wrth yr awdurdod lleol yn blwmp ac yn blaen beth maen nhw’n meddwl o’r ysgol.”

















































