Rhybudd: Mae’r stori hon yn cynnwys cyfeiriadau at hunan niweidio
Mae merch wnaeth drywanu dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman wedi cyfaddef mynd â chyllell i’r ysgol ers iddi fod yn yr ysgol gynradd.
Mae’r ferch 14 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn yr achos yn ei herbyn.
Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl eu trywanu amser egwyl yn Ysgol Dyffryn Aman ar 24 Ebrill, 2024.
Mae’r ferch yn cyfaddef trywanu ond yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.
Wrth gael ei holi gan Caroline Rees KC ar ran yr amddiffyniad, dywedodd y diffynnydd iddi deimlo’n “bryderus” a’n “ofnus” yn Ysgol Dyffryn Aman am ei bod hi’n cael ei bwlio.


















































