Am flynyddoedd bu’n casglu ac yn cofnodi caneuon gwerin Cymraeg, gan deithio drwy Gymru gyda charafan yn recordio unigolion yn canu a chasglu eu hatgofion am ganeuon traddodiadol.
Roedd hynny yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon – yn eu plith y traddodiad canu plygain.
Bwriad y prosiect gyda’r amgueddfa oedd sicrhau nad oedd caneuon gwerin yn diflannu am byth, a chan gydweithio gyda Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru, byddai Roy Saer yn astudio’r caneuon a gasglwyd ers ffurfio’r Gymdeithas ym 1906, gan gofnodi unrhyw newidiadau a datblygiadau yn y caneuon.
Dros y blynyddoedd cofnododd gannoedd o ganeuon gan gyfrannu at y casgliad sydd yn archif yr Amgueddfa Werin.
Roedd yn mynychu cynadleddau Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ers 1963, a daeth yn Llywydd Anrhydeddus ar y gymdeithas.
Yn 2019 cafodd Roy Saer ei anrhydeddu yn noson Gwobrau Gwerin Cymru, gyda Gwobr Cyflawniad Oes am ei ddegawdau o waith ym maes caneuon traddodiadol Cymru.
Yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las cynhaliwyd rhaglen deyrnged i ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed.
Mae Roy Saer yn gadael tri o feibion – Dafydd, Ifan ac Owen. Bu farw ei wraig Ann yn 2018.
















































