Mae Heddlu Glannau Mersi wedi cadarnhau bod y llanc 17 oed sydd wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad yn Southport yn dod yn wreiddiol o Gaerdydd.
Dywed yr heddlu bod dau blentyn wedi marw wedi’r ymosodiad â chyllell ac mae chwe phlentyn arall a dau oedolyn mewn cyflwr difrifol.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn digwyddiad i blant ysgol gynradd – digwyddiad a oedd yn cynnwys ioga a dawns ar thema Taylor Swift.
Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac maen nhw wedi dweud nad yw’r ymosodiad yn gysylltiedig ag unrhyw achos o derfysgaeth.
Fe gafodd wyth claf oedd ag anafiadau o ganlyniad i gael eu trywanu driniaeth gan y gwasanaeth ambiwlans.
Bu’n rhaid i rai gael eu cludo i Ysbyty Blant Alder Hey yn Lerpwl – a wnaeth ddatgan ei fod yn wynebu digwyddiad difrifol.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi, Serena Kennedy: “Mae gwryw 17-oed o Banks yn Sir Gaerhirfryn, a gafodd ei eni yng Nghaerdydd, wedi cael ei arestio ac mae wedi cael ei gludo i orsaf heddlu ble bydd yn cael ei holi gan dditectifs.”













































