Mae’r gwleidydd, y Farwnes Jenny Randerson, wedi marw yn 76 oed, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cadarnhau.
Bu farw yn ei chartref yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Ar ôl dechrau gyrfa ym myd addysg, bu’r Farwnes Randerson yn gynghorydd yng Nghaerdydd cyn cael ei hethol i Senedd Cymru, neu’r Cynulliad fel yr oedd ar y pryd, fel yr aelod cyntaf dros Ganol Caerdydd yn 1999.
Jenny Randerson oedd y Democrat Rhyddfrydol benywaidd cyntaf i gael ei phenodi yn weinidog mewn unrhyw lywodraeth dros y DU – a hynny wrth fod â chyfrifoldeb am y celfyddydau, chwaraeon a’r Gymraeg rhwng 2000 a 2003.
Dywedodd y blaid ei bod hi’n “allweddol” wrth sefydlu strategaethau celfyddydol ac ieithyddol yn ystod y cyfnod.
Cafodd ei gwneud yn Farwnes pan adawodd y Cynulliad yn 2011 ac yn ystod ei chyfnod yn Nhŷ’r Arglwyddi fe wnaeth wasanaethu fel Is-ysgrifennydd Gwladol dros Gymru rhwng 2012 a 2015.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bod y Farwnes Randerson wedi “rhoi ei bywyd i wasanaethu pobl Caerdydd a Chymru”.
Ychwanegodd Jane Dodds AS: “O fynediad am ddim i amgueddfeydd cenedlaethol Cymru, i’r penderfyniad i adeiladu Canolfan y Mileniwm, fe wnaeth ei gwaith fel gweinidog adael marc parhaol ar ein gwleidyddiaeth a’n cymdeithas.
“Bydd colled ar ei hôl gan ei theulu, ffrindiau, cydweithwyr, a’r llawer o unigolion y gwnaeth ei gwaith eu heffeithio.”














































