Dywedodd y Prif Arolygydd, Trystan Bevan, fod gan yr heddlu “swyddogion allan yn archwilio’r ardal o gwmpas Llandudno ac yr ardal o gwmpas Conwy”.
“Ma’ swyddogion o’r tîm sy’n edrych o dan dŵr wedi bod yn yr ardal heddiw ‘ma yn edrych hefo ni ac yn helpu.
“Hefyd, ma’ gennym swyddogion a Gwylwyr y Glannau yn edrych ar hyd yr ochra’, a hefyd yn mynd lawr am ardal Deganwy, a lawr am Conwy ei hun,” meddai.
“Ar ddiwedd y dydd mae o’n fachgen 16 oed, a’r unig beth mae o’n wisgo ydi trunks nofio, does ganddo fo ddim sgidia’, does ganddo fo ddim dillad arall.”
Ychwanegodd fod y “tywydd yn troi yn fama, a da’ ni angen cael hyd iddo fo mor handi â phosib”.
“Dwi ‘di cyfarfod hefo’r teulu heddiw ‘ma, a’r mwya’ hir ma’r ymchwiliad yma’n mynd ymlaen, yr anodda’ ydy hi i bawb.
“Ond ma’r swyddogion iawn yn y llefydd iawn, yn neud y gwaith fel da’ ni’n medru ar hyn o bryd,” meddai.


















































