Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn dweud na fydd perchnogion y Gweilch nawr yn prynu rhanbarth Caerdydd gyda’r trafodaethau wedi dod i ben heb gytundeb.
Fe gadarnhaodd URC ym mis Ionawr 2026 eu bod mewn cyfnod cyfyngedig i gynnal trafodaethau â pherchnogion y Gweilch, Y11 Sport & Media, i drafod y posibilrwydd ohonyn nhw’n prynu Rygbi Caerdydd.
Fe ddaeth y cyfnod yna i ben ym mis Mawrth ond cafodd ei ymestyn 30 o ddiwrnodau ychwanegol – tan ddydd Mercher, 22 Ebrill.
Erbyn hyn mae URC ac Y11 wedi “cytuno ar y cyd y byddai perchnogion y Gweilch yn tynnu yn ôl o’r broses” a hynny ar ôl “trafodaethau adeiladol” ac mi fydd Caerdydd yn parhau dan berchnogaeth URC.
Does dim manylion wedi cael eu rhannu ynglyn â pham ddaeth y trafodaethau i ben, gyda phrif weithredwr URC, Abi Tierney, ond yn cadarnhau y byddai Caerdydd yn parhau i fod dan berchnogaeth y corff llywodraethu am y tro.
“Y11 cyflwynodd y cynnig gorau i brynu Caerdydd ond mae URC wedi dod i’r casgliad y byddai er budd gorau rygbi Cymru petai Caerdydd yn aros dan ein perchnogaeth am y tro,” meddai Tierney.
“Rydym i gyd yn ddiolchgar iawn i Y11 am y proffesiynoldeb a’r ymrwymiad i rygbi Cymru y maen nhw wedi’i ddangos drwy gydol y broses hon.”

















































