Mae ymwelwyr yn gallu mwynhau perfformiadau ar draws sawl llwyfan – y Prif Lwyfan, Llwyfan yr Ardd, Llwyfan y Ddinas, Gwerinle, Llais ac Y Selar.
Yn ogystal â pherfformwyr Cymreig mi fydd artistiaid rhyngwladol yn perfformio yn y brifddinas hefyd gan gynnwys y band Llydaweg Tanork a’r grŵp Gwyddelig Grooveline.
Am y tro cyntaf erioed, mae Tafwyl hefyd wedi penodi dau lysgennad swyddogol i helpu hyrwyddo’r ŵyl.
Y llysgenhadon yw Rose Datta a Catrin Feelings, dau artist sydd â chysylltiad agos â’r ŵyl ac sydd wedi bod yn rhan o lwyfannau a digwyddiadau Tafwyl dros y blynyddoedd.
Bwriad y rôl yn ôl Tafwyl “yw ysbrydoli pobl ifanc yng Nghaerdydd a thu hwnt i ymfalchïo yn eu hiaith, eu diwylliant a’u creadigrwydd, gan adeiladu ar lwyddiant Tafwyl wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid Cymraeg”.














































