Cafodd preswyliad tri diwrnod ei gynnal yn y coleg cyn y gystadleuaeth derfynol, oedd yn cynnwys dosbarthiadau meistr, mentora arbenigol, a hyfforddiant iaith.
Roedd David Karapetian yn cynrychioli’r Royal Academy of Music, a dewisodd ganu’r gân Armenaidd, Կռունկ, [Y Crëyr], gan Komitas.
Ychwanegodd David fod canu yn ei iaith ei hun yn rhywbeth “hynod arbennig”.
“Mae cân Armenaidd yn rhan o fy niwylliant nas clywir yn aml yn y byd perfformio ehangach, felly roedd cael y cyfle i’w rhannu gyda chynulleidfaoedd newydd yn rhywbeth arwyddocaol iawn.”
Roedd un cystadleuydd o Gymru yn rhan o’r gystadleuaeth eleni, sef Charlotte Crane o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.














































