“‘Dach chi’n gallu teimlo’r gwres wrth i chi ddreifio i fyny’r allt – es i ryw hanner ffordd i fyny ac mae’r gwres yn llethol, ac roedd hynny’n eitha’ pell o le mae’r tân.
“Does dim i ddim syniad be sy’n digwydd yna… dydw i ddim yn meddwl y byddan ni’n ôl [adra] heno.
“Dydw i ddim yn meddwl bydd fy nhŷ wedi ei ddifrodi mewn unrhyw ffordd – efallai bydd yna ddifrod mwg… dwi’n croesi popeth y byddan ni’n ôl yna ond mae’n destun pryder achos, yn llythrennol, ble mae mae’r tân yn dod i lawr y mynydd, dyna lle ‘dan ni’n byw”.
Ychwanegodd bod y gwasanaethau brys “wedi bod yn rhyfeddol”, a’i bod ar ddeall bod “pawb, hyd y gwn, a’u hanifeiliaid a’u hanifeiliaid anwes yn saff”.
Gan ategu’r apêl i bawb ddilyn cyfarwyddiadau’r gwasanaethau brys, ychwanegodd: “Cadwch eich hunan yn saff… wnai grio os mae fy nhŷ wedi llosgi ond mae’n bosib cael tŷ newydd – fedrwch chi ddim gwneud hynny efo pobol.”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.













































