Mewn rhaglen newydd ar BBC Radio Cymru, Trysorau o’r Mawn, mae Haf Roberts yn cyfarfod wyres William Owen Roberts, Delyth Owen.
Delyth fu’n egluro sut y daeth ei thaid ar draws hen gadwyn haearn wrth weithio ar y mawndir â thractor.
“Be’ nath ddigwydd wrth garthu’r mawn oedd nath y tractor fynd yn styc, oedd y dynion wedi trio gymaint o wahanol betha’ i dynnu’r tractor yma allan, dim byd yn gweithio, a wedyn oedd Taid yn cofio bod tsiaen ar un ochr o’r mwd, a ddeudodd o wrth y bois ‘Triwch hwn de!’
“Ar ôl clymu’r gadwyn i’r tractor tynnwyd y tractor yn rhydd. Ond roedd gan William Owen Roberts deimlad fod yr hen gadwyn yma’n un go arbennig.
“Oedd Taid yn gwybod fod rhywbeth pwysig am y tsiaen.
“Yn syth ar ôl cael y tractor yn rhydd, aeth o ar ei feic i’r swyddfa gyda’r tsiaen ar ei handlebars. Dyma fo’n dweud wrth swyddogion RAF (yn Saesneg siŵr o fod), ‘Dwi’n meddwl fod hwn yn rili pwysig’.
“Fe dynnodd lun efo pensel o’r gadwyn a gyrru fo lawr at Cyril Fox, curadur yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.”















































