Mae bwyty cebab mewn perygl o golli ei drwydded ar ôl i staff erlid cwsmer i’r stryd gyda chyllyll a chael eu gweld mewn digwyddiad ar wahân gyda gynnau replica.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud cais am adolygiad o drwydded Efes Kebab House ym Mae Colwyn, yn ôl y Gwasanaeth Adrodd ar Ddemocratiaeth Leol.
Clywodd cynghorwyr Conwy bod staff wedi mynd ar ôl cwsmer gyda chyllyll ar ôl iddyn nhw daflu saws a chan diod atynt ar 17 Awst.
Clywodd y cynghorwyr hefyd bod yr heddlu wedi eu galw ar ôl i staff gael eu gweld gyda “drylliau ffug” ar 10 Hydref.
Gofynnodd y perchennog Bilgin Odemis iddo aros ar agor, ac mae’n “gwarantu 100%” na fyddai digwyddiadau o’r fath yn digwydd eto.














































