Yr hyn sydd ar werth fel rhan o’r stad yw tir ffermio 901 acer a thri ffermdy ar hyd arfordir ardal Pontllyfni sydd y tu allan i’r waliau.
Mae’r Arglwydd Newborough, sef yr 8fed Barwn i ddal y teitl, hefyd yn berchen ac yn byw ar stad Rhug ger Corwen ac fe ddywedodd ei fod yn gwerthu stad Glynllifon gan “nad yw hi’n bosib iddo fod ymhob man”.
Dywedodd yr Arglwydd Newborough: “Dwi wrth fy modd yno, mae golygfeydd prydferth a phobl hyfryd, ond dwi’n 77 oed ac dwi wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd yma, does gen i neb arall i reoli’r stad.”
Yn ôl John Dilwyn Williams, mae gwerthu’r stad yn dod â chyfnod hanesyddol pwysig o ran cysylltiad y teulu i ben yn yr ardal.
“Mae cysylltiad y teulu Wynniaid wedi chwarae rhan allweddol yn yr ardal.
“Syr Thomas Wynn ddaeth yr Arglwydd Newborough cyntaf yn 1776 a dros y degawdau wedyn roedd y teulu yn ddylanwadol iawn yn wleidyddol.
“Roedd aelodau o’r teulu yn priodi teuluoedd bonedd mewn ardaloedd eraill, felly roedd dylanwad a thir y Wynniaid yn ymestyn y tu hwnt i Glynllifon.
“Yn sicr bydd gwerthu beth sy’n weddill o’r stad Glynllifon yn ddiwedd cyfnod fod cysylltiad y teulu efo’r ardal yma’n dod i ben,” meddai.
Mae stad Glynllifon wedi’i roi ar werth am bris o £10.9m.


















































