Dyw’r cwpl ddim ar eu pen eu hunain chwaith gyda’u rhwystredigaethau.
Mae gan Gwennol Haf o Gaerdydd fab deg oed – Pwyll – sydd â Syndrom Down.
“Yn sicr mae pobl yn defnyddio terminoleg anghywir pan rydyn ni’n siarad â phobl ni ddim yn ‘nabod. Maen nhw’n dweud ‘Downs child‘.
“Fel teulu da ni’n anghofio bod Pwyll efo Down Syndrome – jyst plentyn ni yw e.
“Mae’n bwysig fel teulu i ni addysgu nhw beth yw’r iaith gywir ac i bobl wrando a thrio dweud y termau iawn.
“Yn aml dyw pobl ddim yn golygu dim byd cas gyda fe, dydyn nhw ddim eisiau bod yn negatif neu angharedig.
“Ond mae’n bwysig, os oes rhywun yn dweud wrthyn nhw beth yw’r terminoleg cywir, bo’ nhw’n trial cofio beth yw’r geiriau ddylai gael eu defnyddio.”

















































