Mae’r Blaid Lafur wedi lansio eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd ddydd Llun, gydag aelodau’n gwybod eu bod nhw’n wynebu talcen caled.
Geiriau agoriadol y lansiad yn Abertawe oedd “it’s tough out there“, gan y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies.
Cyfaddefiad fod y blaid yn sylweddoli fod y polau piniwn yn eu gosod yn y trydydd safle, wedi degawdau wrth y llyw yng Nghymru.
Mwy o sicrwydd a llai o boeni yw dyhead pleidleiswyr, meddai Irranca-Davies, a’i honiad yw mai Llafur all ddiwallu’r gofyn yna.
Roedd hefyd cyfle i danlinellu’r llinellau ymosod yn erbyn y pleidiau eraill: Dim mwy na “Ceidwadwyr wedi’u hailgylchu” yw Reform, a phlaid sy’n obsesu am y cyfansoddiad ar draul gofynion real yw Plaid Cymru, meddai.
Dyma bum peth ddysgon ni.














































