Mi fyddai unrhyw un o wylwyr selog EastEnders yn gyfarwydd iawn gydag un o gymeriadau mwyaf eiconig y gyfres, sef Dot Cotton.
Roedd hi’n un o brif wynebau’r opera sebon o 1985 nes 2020 ac fe gafodd rhifyn arbennig o EastEnders ei ddarlledu o brofiad Dot yn blentyn yn cael ei hanfon i Sir Gaerfyrddin dros gyfnod yr Ail Ryfel Byd.
Ond tu hwnt i stori’r sgrin, cafodd yr actores June Brown oedd yn chwarae rhan Dot, ei hanfon i Gymru yn blentyn.
Fe ddaeth hi a degau o blant eraill yn faciwîs i Gwm Gwendraeth.
I ddathlu’r cysylltiad ac i nodi’r croeso cynnes wnaeth yr ardal roi i’r plant, mae’r artist Steve Jenkins o Lanelli, sy’n adnabyddus fel JenksArt, wedi creu murlun newydd gyda June Brown yn rhan ohono ym mharc pentref Pont-iets.


















































