Mae ffigyrau newydd yn dangos fod nifer y triniaethau yn ysbytai preifat Cymru ar ei lefel uchaf erioed.
Yn ôl y Rhwydwaith Gwybodaeth Gofal Iechyd Preifat (PHIN), roedd 7,900 o driniaethau mewn ysbytai preifat yng Nghymru yn nhri mis cyntaf 2024.
Bum mlynedd yn ôl, 4,470 o driniaethau o’r fath gafodd eu cynnal yn yr un cyfnod.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd newydd Cymru, Jeremy Miles, ei fod e “ddim am weld” pobl yn troi at y sector breifat, ac mai mynd i’r afael â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yw “un o brif flaenoriaethau” y llywodraeth.

















































