15 oed oedd Emyr Prys Davies pan gychwynnodd y gyfres, ag yntau’n chwarae rhan Dylan ac yn rhannu ei amser rhwng y set a’r ysgol.
“O’dd o’n brilliant i ni – o’dda ni’n cael methu tua dau neu dri diwrnod o’r ysgol yr wythnos,” meddai.
“O’dd gynnyn nhw diwtora ar y set i ni, ond o’dd o’n brofiad hollol wahanol i be’ o’dd fy ffrindiau i’n ysgol yn mynd drwyddo fo.”
Dywedodd Emyr eu bod nhw’n cael gweithio hefo “pobl brofiadol, amazing, fel yr hen Dewi Pws a Dyfrig Topper – ‘da ni wedi colli’r ddau ohonyn nhw wedyn yn drist iawn”.
“Ond o leia’ dwi’n gallu d’eud ‘mod i ‘di cael bod yma ac wedi cael actio efo nhw. Dwi’n lwcus iawn.”
Ychwanegodd fod “cael y cyfle i weithio o 15 oed yn mynd i helpu hefo hyder a dwi’n diolch yn fawr iawn am y cyfle ges i gan Rownd a Rownd”.













































