Yn ôl Gareth Davies, fu’n gadeirydd URC tan 2020, mae angen “negeseuon positif” gan yr undeb i’r gymuned rygbi y tu hwnt i’r lefel broffesiynol.
“Fydden ni’n meddwl dylen nhw ganolbwyntio fwy ar trial egluro beth sy’n mynd ‘mlân,” meddai.
“Ar y funud ‘na gyd ni’n gael yw’r headlines fel petai, o beth yw’r opsiynau’n mynd i fod.
“Lot o bwyslais ar bedwar neu ddau neu dri rhanbarth, ac wrth gwrs mae lot o rygbi tu cefn i hwnna – y gêm gymunedol, y gêm ieuenctid, y gêm yng ngogledd Cymru.
“Felly fydden i’n dweud bod angen fwy o siarad a mwy o negeseuon positif i fynd mas i’r gymuned rygbi.”

















































