Yn y cyfamser mae’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Ysgrifennydd Materion Gwledig wedi dweud wrth ASau bod clefyd y tafod glas yn “her fawr” i’r diwydiant amaeth yng Nghymru.
Wrth ymddangos o flaen Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, mae Huw Irranca-Davies wedi pledio ar ffermwyr i frechu eu hanifeiliaid.
Dywedodd prif filfeddyg Cymru, Richard Irvine, wrth y pwyllgor fod swyddogion iechyd anifeiliaid hefyd yn ymchwilio i ddau achos arall wedi’r achosion ym Mhowys.
Mae’r pedair fferm ble cafodd y clefyd ei gadarnhau bellach dan gyfyngiadau symud, gyda’r anifeiliaid yn cael eu difa, meddai.
Fe wnaeth Dr Irvine hefyd rybuddio am y cynnydd sylweddol mewn achosion yn Lloegr dros yr wythnosau diwethaf.
Mae bron i 230,000 o anifeiliaid fferm wedi cael eu brechu yng Nghymru hyd yn hyn, eglurodd – “cyfran fach o’r boblogaeth da byw”.














































