Rebecca sy’n chwarae rhan Mari, ond mae hi hefyd yn un o chwe awdur y darn. Sut wnaethon nhw benderfynu ar syniad ar gyfer y sioe?
“O’n ni’n sôn am byncie gwahanol ni gyd yn gallu uniaethu gyda. ‘Naethon ni ddod ar draws yr Eisteddfod fel syniad. Gaethon ni lot o sgyrsie gwahanol a gwrthwynebol weithie, ac o’n ni jyst ‘di ffeindio bo’ fe’n pwnc rili addas i ni fel grŵp.
“O’n i byth ‘di mynd i’r Steddfod o’r blaen heblaw am unwaith pan odd e yn Llanelli. Mae rhai o merched arall y dosbarth yn cystadlu pob blwyddyn, yn mynd i gymdeithasu a mynd i Maes B. Ond pryd o’n ni’n cal y sgrysie yna o’n i ddim yn gwybod unrhyw beth so o’n i ‘di dysgu lot yn enwedig am yr ochr gymdeithasol.”

















































