Y bwriad oedd y byddai cleifion yn cael eu gwasgaru i Feddygfa Nant y Glo ym Mhontyberem (3 milltir o Feddygfa’r Sarn), Meddygfa Minafon yng Nghydweli (5.5 milltir), ac i rai cleifion, meddygfeydd yn Llanelli.
Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu wrth aelodau mewn cyfarfod gan y bwrdd ddydd Iau fod lefel yr ymatebion yn “arwyddocaol”, gan ddweud fod cryfder teimladau’r gymuned i’r cynnig “yn glir”.
Roedd yr adroddiad, a gafodd ei drafod yn y cyfarfod yn manylu ar “adborth negyddol” i’r newidiadau arfaethedig, gan ddweud nad oedd “neb yn teimlo'” mai gwasgaru cleifion i bractisau cyfagos a chael gwared ar y gwasanaeth ym Mhont-iets oedd yr ateb.
Roedd teithio, trafnidiaeth a’r effaith ar grwpiau bregus i gyd yn faterion amlwg oedd yn peri gofid.
Cafodd “nifer fach” o “fynegiadau anffurfiol o ddiddordeb” yng nghytundeb Meddygfa’r Sarn hefyd eu derbyn yn ystod y cyfnod ymgysylltu.
Er bod hyn yn cael ei groesawu, mae’r adroddiad yn dweud nad oes gwybodaeth ariannol na busnes wedi ei rannu gyda nhw am y cais.

















































