Bydd y fersiwn Gymraeg o Star Wars: Gobaith Newydd yn cael ei dangos ar S4C a’i llwyfannau digidol ar Ddydd Nadolig.
Mae Rhys yn rhan o gast o actorion amlwg o Gymru, gyda Rhys Ifans yn lleisio Obi-Wan Kenobi, Aimee-Ffion Edwards yn chwarae rhan y Dywysoges Leia, a Mark Lewis Jones yn lleisio Darth Vader.
Osian Morgan sy’n lleisio Luke Skywalker, tra bod Llŷr Ifans yn chwarae rhan y robot C-3PO.
Dywedodd Rhys fod clywed llinellau cyfarwydd o Star Wars wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg yn brofiad rhyfeddol.
“Y peth od oedd bod rhaid cyfieithu’r holl bethau yma,” meddai.
“Roedden ni wedi tyfu i fyny yn adnabod Star Wars, ac wedyn roeddwn i’n eu dweud nhw yn Gymraeg.
“Roedd yna eiriau doeddwn i erioed wedi’u defnyddio o’r blaen, ac roeddwn i’n baglu drostyn nhw gan feddwl, ‘Alla i ddim hyd yn oed ei ddweud e’.
“Ar yr un pryd, roedd yn rhywbeth mor gyfarwydd. Roedd y profiad cyfan yn hollol swreal.”
Cyfaddefodd hefyd iddo deimlo pwysau wrth geisio dilyn perfformiad Harrison Ford fel Han Solo.
“Roedd rhywun yn meddwl, ‘Alla i ddim lleisio Harrison Ford’,” meddai.
Pan ofynnwyd iddo a oedd wedi siarad â Ford am y rôl, atebodd: “Na. Mae gen i ormod o ofn!”














































