Cafodd y Goron ei chyflwyno gan deulu’r Parchedig W J Gruffydd (Elerydd) a Mrs Jane Gruffydd er cof, ac mewn gwerthfawrogiad o deyrngarwch a haelioni aelwydydd bro’r Eisteddfod yn ystod eu gweinidogaeth yn yr ardal.
Mae’r wobr ariannol o £750 yn rhoddedig gan bapur bro Y Cardi Bach er cof am eu cyn-olygyddion Mrs Rhoswen Llewellyn a’r Parchedig Euros Wyn Jones.
Cafodd y Goron ei chynllunio a’i chreu gan Elen a Dylan Bowen, gŵr a gwraig, yn eu gweithdy yng Nghastellnewydd Emlyn.
Dywedon nhw eu bod wedi cael eu hysbrydoli gan yr hen ddihareb amaethyddol, ‘Aur dan y rhedyn, arian dan yr eithin, newyn dan y grug’, sy’n cyfeirio at ansawdd gwahanol dirweddau.
Dywedodd Elen: “Rydyn ni wedi ceisio cyfleu y tirwedd bryniog yng nghynllun y Goron. Ar fryniau’r Preselau mae cerrig unigol yn sefyll yn browd, ac rydyn ni wedi cynnwys hyn yn y Goron hefyd.”
Dyma’r tro cyntaf i Elen a Dylan gynllunio a chreu Coron ar gyfer yr Eisteddfod, ac mae’r ddau yn credu ei bod yn anrhydedd fawr, yn enwedig gan mai dim ond ers tair blynedd maen nhw wedi bod yn rhedeg eu cwmni gemwaith – Bowen Jewellery.
Mae gan y ddau eu rôl benodol yn y gwaith o gynllunio a chreu gemwaith – Elen yn cyfuno technegau gof aur traddodiadol gyda chelf gyfoes a Dylan yn gofalu am ochr dechnegol y gwaith a sicrhau bod pob darn yn strwythurol gadarn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.















































