Ers ei thriniaeth gyntaf yn 2010 mae Mared wedi gorfod troi ei chefn ar gerddoriaeth, fel mae’n sôn: “Dwi methu ysgrifennu cân nawr a methu canu.
“Mae bod rownd sŵn yn ffactor enfawr hefyd. Se i gallu mynd i gigs rhagor.”
Dechreuodd Mared ei gyrfa mewn celf ar ôl bod mewn gweithdy yn yr uned canser yn Abertawe ac mae erbyn hyn yn artist sy’n adnabyddus am ei steil lliwgar, seicadelig sy’n deillio, meddai, o’r newid yn ei hymennydd ers ei llawdriniaeth.
Meddai: “Daeth y celf ac achub fy mywyd i ac achub fy enaid creadigol i. Yn amlwg mae cerddoriaeth a celf yn mynd law yn llaw ond os mae un darn o dy ymennydd yn cael niwed mae’r ochr arall yn overcompensateio.”
Mae Mared yn falch ei bod hi’n ddigon cryf i siarad am y cyflwr ac i gyfleu ei neges: “Mae’n ril bwysig i fi ddweud bod cwpl o ni mas ‘ma yn byw gyda’r cyflwr yma. Ti byth yn clywed am y bobl ‘na sy’n byw gyda fe. Mae’n bwysig bod ni’n dweud dwi dal yma, dal yn brwydro.
“Pan wnaeth fy mywyd i newid o’n i’n teimlo fel tŷ teras wedi llosgi lawr i brics a peips ac yn teimlo sut yn y byd wyt ti’n delio gyda hyn?
“Ond gydag amser achos ‘mod i ddim yn gigio ac yn neud cyfweliadau o’n i’n teimlo mod i wedi cael fy anghofio, bod y byd wedi gadael fi ar ôl.
“Mae gallu cael y cyfle i drafod y cerddoriaeth ac yn enwedig cân mae pobl yn dal i hoffi yn teimlo fel dyw pobl ddim wedi anghofio amdanai.”
3 Cân, pob nos Fercher am 21:00 ar S4C neu ar BBC iPlayer.















































