Dywedodd Llywela Wharton o Gaernarfon, sy’n fam i bedwar o blant, bod costau bwyd, ynni a thanwydd yn rhoi pwysau mawr ar deuluoedd sy’n gweithio.
“Costau egni, costau bwyd, costau petrol a diesel sy’n ein heffeithio fwyaf,” meddai ar raglen Dros Frecwast.
“Mae’n teimlo fel mae prisiau jyst yn cynyddu a ‘di cyflogau ddim.”
Dywedodd ei bod hi’n teimlo nad oes digon o gymorth ar gael i bobl sydd mewn gwaith.
“Fyswn i’n licio clywed bod ‘na help i’r rheiny sy’n gweithio,” meddai.
“Mae’n teimlo bod llawer mwy o help i bobl sydd ddim yn gweithio na phobl sydd yn, ond sy’n trio byw bob dydd.”
Ychwanegodd fod costau gwyliau ysgol yn rhoi pwysau ychwanegol ar rieni.
“Mae mynd i lefydd a gwneud pethau efo’r plant yn ofnadwy o ddrud,” meddai.
“‘Da chi’n sôn am £15 y plentyn weithia’, ac i deulu mae hynny’n gallu bod tua £100 am ddiwrnod allan, cyn rhoi bwyd a thrafnidiaeth ar ei ben o.”














































