Wrth i dîm pêl-droed dynion Cymru baratoi i wynebu Ghana mewn gêm gyfeillgar, fe fydd y chwaraewyr yn gwisgo crys arbennig wrth gamu ar y cae.
Mae’r crys coch wedi’i ddylunio i nodi 150 mlynedd ers sefydlu’r Gymdeithas bêl-droed, a hynny ym mis Chwefror 1876.
Mae sawl crys trawiadol wedi ei wisgo gan chwaraewyr a chefnogwyr Cymru dros y degawdau, a dyma ddetholiad ohonyn nhw. Pa un yw eich ffefryn chi?














































