Er hyn, dywedodd Dr Shankar nad oedd y nifer a dderbyniodd brechlyn eleni “cystal ag y byddem wedi hoffi iddo fod”.
“Mae’r nifer sy’n derbyn brechiad ffliw (ymhlith y rhai dros 65 oed) rhwng 65-70% ar draws gwahanol fyrddau iechyd Cymru. Tua 73% oedd y ffigwr y llynedd.
“Yn yr un modd, mewn gweithwyr gofal iechyd, ar hyn o bryd mae’n 27%. Roedden ni tua 33% y llynedd.”
Awgrymodd y gallai’r ffaith fod llai o weithwyr gofal iechyd wedi derbyn brechlyn ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau os yw staff yn treulio amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch.
“Rydym yn annog pobl sy’n gymwys i ddod ymlaen a chymryd y brechlyn,” ychwanegodd.
“Nid yw fyth yn rhy hwyr i gymryd y brechlyn o fewn y tymor, a bydd y brechlyn sy’n cael ei gymryd nawr hefyd yn cynnig amddiffyniad sylweddol am weddill y tymor.”
















































