Ddydd Sul, dywedodd Skates na fyddai gan Lafur “unrhyw ddewis” ond pleidleisio yn erbyn y gyllideb oni bai bod y llywodraeth yn cytuno i’w gofynion.
“Rwy’n credu bod £40m eleni yn fargen wael i addysg, ac rwy’n credu y byddai £40m y flwyddyn nesaf yn fargen wael arall i addysg,” meddai wrth BBC Cymru.
Pan wnaeth hi gyhoeddi’r gyllideb atodol ym mis Mehefin, fe wnaeth y Gweinidog Cyllid Elin Jones gadw £247m o wariant dyddiol i’r naill ochr, er mwyn ei wario yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Yn ei lythyr at Skates, dywedodd Mr ap Iorwerth fod y gyllideb dan bwysau, gyda’r gwasanaeth iechyd yn wynebu diffyg o £333m.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.















































