Er ei fod yn fwy cyfarwydd i rai fel actor, mewn cyfresi fel Rownd a Rownd, 35 Awr a Death Valley, ac fel aelod o’r grŵp comedi cerddorol Cabarela, dydy ysgrifennu ddim yn rhywbeth newydd i Iestyn.
Dechreuodd arni er mwyn creu cymeriadau roedd yn awyddus i’w perfformio, meddai, ac fel y sylweddolodd ar ddechrau ei yrfa, roedd prinder cymeriadau Cymreig roedd wir eisiau eu hactio.
“Mae pob actor Cymreig wedi ei wneud e ar ryw bwynt, sef chwarae rôl sydd ddim yn portreadu’r Cymry yn y ffordd orau. Mae wedi newid lot yn y blynyddoedd diwethaf, ond roedd ‘na gyfnod pan o’n i’n dechrau mas, y cymeriadau oedd yn cael eu cynnig oedd rhywun twp Cymraeg.
“A pan mae rhent ‘da ti i’w dalu, mae’n anodd iawn i gael egwyddorion!
“Hwnna yw un o’r rhesymau dwi’n ysgrifennu achos o’n i ‘di diflasu. Ar ôl gwneud clyweliad ar gyfer hysbyseb lle o’n i ar fy mhengliniau yn mynd o amgylch y stafell yn canu Hen Wlad Fy Nhadau fel dafad, o’n i’n meddwl, mae hwn yn gorfod newid…!”

















































