Yn ôl trigolyn arall, nad oedd eisiau cael ei enwi, mae’r yn sefyllfa yn “ddigalon”.
“Mae ar raddfa ddiwydiannol. Mae’n drychinebus i’w weld,” meddai.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod hysbysiad gorfodi wedi’i gyhoeddi i gael gwared ar y gwastraff o’r safle.
Mae Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi hysbysiad atal dros dro hefyd, ar ôl i “swm sylweddol” o ddeunydd gael ei ollwng “heb ganiatâd cynllunio”.
Dywedodd y cyngor y bydden nhw hefyd yn cyflwyno hysbysiadau gorfodi ac atal “er mwyn cywiro’r sefyllfa a sicrhau bod y tir yn cael ei adfer”.
Dywedodd Tom Lawson, o Goedpoeth, ei fod yn rhwystredig na chafodd y gweithgaredd ei atal gan CNC pan gafodd ei weld yn wreiddiol.
Amcangyfrifodd fod miloedd o dunelli o ddeunydd yno – deunydd oedd, yn ei eiriau ef, yn edrych fel “gwastraff dymchwel o ansawdd isel” – gan nodi ei fod wedi gweld tar a batris plwm ymhlith y rwbel.
Ychwanegodd Mr Lawson ei fod hefyd yn ofni y byddai’r rhai sy’n gyfrifol “yn syml, yn troi eu cefnau ar y cyfan”.
“Bydd y cyhoedd yn cael eu gadael i dalu… mae hynny’n hollol anghywir,” meddai.













































