Cafodd Beca Evans wybod bod yn rhaid iddi dalu £500 os yw ei merch – Martha – eisiau lle ar fws i’r ysgol.
Er i gerdyn bws ei merch arall, sydd yn yr un ysgol, gyrraedd drwy’r post cyn dechrau’r tymor, doedd dim sôn am gerdyn bws Martha, a oedd yn dechrau yn y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.
Cafodd wybod y byddai’n rhaid iddi wneud cais am ‘sedd wag’ ar y bws am fod blaenoriaeth i blant iau yr ysgol, sy’n rheswm digon “rhesymol” meddai Beca.
Yna cafodd wybod y byddai’n rhaid iddi dalu £500 os oedd yn dymuno cael sedd i’w merch ar y bws.
Dywedodd fod hyn yn “hollol warthus” gan ychwanegu ei fod yn waeth i deuluoedd yr ardal “ddifreintiedig” honno.
“Dyle fod y cyngor yn hybu addysg bellach, yn cefnogi rhieni i anfon eu plant i’r chweched dosbarth,” meddai.


















































