Pan oedd hi’n ifanc, roedd yn gantores mewn band o’r enw MEFS – talfyriad o Mephistophelean Engines of Pleasure.
Bu’n gweithio yn y Brit School, sy’n arbenigo mewn celfyddydau a pherfformio, yn Croydon.
Yn Llundain y gwnaeth hi gyfarfod ei gŵr, Emmett Jenner, a fu’n ymgeisydd Reform yn Ynys Môn yn etholiad cyffredinol 2024.
Mae’r ddau wedi magu eu plant ar Ynys Môn.
Treuliodd hi flynyddoedd fel athrawes Saesneg yn Ysgol David Hughes yn Llanfairpwll.
Safodd dros y Brexit Party yn etholiad cyffredinol y DU yn 2019, ac roedd yn aelod o UKIP yn flaenorol, pan oedd y blaid yn cael ei harwain gan Nigel Farage, arweinydd presennol Reform UK.
Yn ôl cofrestr buddiannau’r Senedd mae’n treulio hyd at 5 awr yr wythnos yn diwtor Saesneg i fyfyrwyr tramor ar-lein. Dywedodd bod y “rôl yn fy helpu i gadw fy ngwybodaeth am y proffesiwn addysgu a phrofiadau pobl ifanc yn gyfredol”.
Fis diwethaf dywedodd Jenner ei bod wedi wynebu beirniadaeth am fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol oherwydd ei bod yn aelod o Reform.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.















































