Gyda phleidiau gwleidyddol yn paratoi at etholiad y Senedd yn 2026, mae’n debygol mai costau gofal plant fydd un o’r pynciau llosg.
Mae Plaid Cymru, wnaeth helpu i sicrhau bod y ddarpariaeth gofal plant am ddim yn cael ei ehangu fel rhan o gytundeb gyda Llywodraeth Cymru yn 2021, yn dweud eu bod nhw am “ehangu’r cynnig ar ofal plant mwy fforddiadwy yn 2026”.
Roedd cytundeb rhwng arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, a Llywodraeth Cymru i gymeradwyo’r gyllideb fis diwethaf yn cynnwys £30m yn ychwanegol ar gyfer gofal plant.
Dywedodd Ms Dodds ei bod am weld 30 awr o ofal plant am ddim i blant o naw mis oed tan oedran ysgol.
Dywed y Ceidwadwyr eu bod am weld Llywodraeth Cymru yn cynnig “30 awr o ofal plant am ddim i blant dan bump oed, fel sy’n digwydd yn Lloegr”.
Yn ôl llywodraeth Lafur Cymru, eu blaenoriaeth nhw i ddechrau ydy cefnogi’r cymunedau mwyaf difreintiedig.
“Mae ganddon ni £50m yn ychwanegol yn 2025-26 er mwyn ehangu’r cynllun Dechrau’n Deg i blant dwy oed, fydd yn cefnogi mwy o deuluoedd, a chynyddu’r raddfa bob awr ar gyfer gofal plant er mwyn sicrhau cefnogaeth bellach ar gyfer darparwyr gofal plant,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.


















































