Mi gasglodd adroddiad gan Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru ddydd Mawrth, bod Foden wedi bod yn “strategol” wrth fynd ati i gam-drin merched ifanc yn rhywiol – yn penodi ei hun yn bennaeth diogelu a bugeiliol yr ysgol ac ysgrifennu adroddiadau bwrdd y llywodraethwyr ar eu rhan.
Yn ôl Dr Edwards, mae angen edrych ar y cyfrifoldebau a’r gefnogaeth sydd i lywodraethwyr ysgolion.
“I ysgol uwchradd fawr, mae bod yn gadeirydd llywodraethwyr yn waith sawl diwrnod yr wythnos. Dydy o ddim yn fater o droi fyny i gyfarfod.
“Mae’n anodd iawn i rywun sy’n gweithio’n llawn amser i ymgymryd â’r gwaith yn ddi-dâl a’i wneud yn eu horiau personol, ond hefyd bod yn barod i fynd mewn i’r ysgol ar fyr-rybudd.
“Dwi’n meddwl bod rôl cadeirydd yn aruthrol o galed a thrwm,” ychwanegodd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru; “Rydym wedi gweld newid mawr yn y system ysgolion dros y degawd diwethaf, ond dydy gwaith cyrff llywodraethu ddim wedi newid yn elfennol a dyna pam ein bod wedi cyhoeddi adolygiad.”
“Ar hyn o bryd awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am sicrhau bod llywodraethwyr yn cael yr hyfforddiant a’r wybodaeth sydd ei angen i gyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol.”
















































