Dywedodd Josh Downes, perchennog siop farbwr ar Heol y Felin, fod perchnogion busnes eisiau gwybod pwy sy’n gyfrifol.
“Fe ddaeth llawer [o ddŵr] trwy’r draen, ac ar y funud rydym yn ceisio canfod pwy sy’n gyfrifol am y system ddraenio ar ein stryd”.
“Mae’r broblem un ai lawr i’r cyngor neu Dŵr Cymru.”
Fe wnaeth Enrico Orsi, sy’n rhedeg Zucco’s Juice Bar gytuno gyda Josh: “Dy’n ni ddim hyd yn oed dros y rhan waethaf o’r gaeaf eto.
“Felly gall y math yma o lifogydd ddigwydd eto wythnos nesaf. ‘Ni’n teimlo fel bo’ ni’n troi yn yr unfan ar y funud.”
“Rydym yn trio gwthio i gael rhywbeth wedi ei wneud er mwyn atal y stryd rhag profi llifogydd eto.
“Roeddwn yma’r bore pan ddaeth y llifogydd i mewn, ac roedd y cyfan yn dod i fyny o’r draeniau. Roedd hi fel ffynnon.
“Rydym yn teimlo bod modd datrys hyn. Felly rydym am wthio er mwyn cael y newidiadau angenrheidiol a fydd yn sicrhau bod dyfodol i’r stryd.”
















































