Yn ôl Ava, meddai ei mam, mae plant yn cael eu hannog i ddefnyddio ffonau mewn rhai gwersi, er enghraifft i chwilio am leoliad drwy Google Earth.
Mae Ms Lewis yn barod i gydnabod bod yr ysgol wedi bod yn gefnogol ar ôl iddi gysylltu â nhw, gan gynnig teclyn clyfar mewn gwersi i Ava.
Ond dyw ei mam ddim am ei gweld dan anfantais.
“Mae mor anodd i bob rhiant yng Nghymru, achos ni’n styc. Does neb yn gw’bod beth yw’r answer.
“Mae pob plentyn am gael ffôn clyfar achos mae pawb arall yn cael un.
“Does neb yn gw’bod beth i’w wneud. Mae fel ‘rock and a hard place.”
“Rwy’n teimlo’n euog nawr fel rhiant,” meddai’r fam i ddau, sydd bellach wedi penderfynu rhoi ffôn i i’w phlentyn, ond nid un clyfar.
















































