Nawr, mae’r eisteddfod, sy’n 102 oed eleni, yn chwilio am goron ar gyfer 2027.
Eglurai Rhian Medi, sy’n aelod o Bwyllgor yr Eisteddfod ac a oedd yn arwain y seremonïau:
“Rydym yn ddi-goron ar gyfer y flwyddyn nesa’ oni bai y daw noddwyr ymlaen, neu y cawn rodd o Goron fach.
“Mae pris arian wedi cynyddu cymaint fel mae’n amhosib cael coronau arian pur. Mae cael peth arian, neu plât arian (silver plated) yn llawer haws ei gyrraedd.
“Dyna reswm arall pam fod y seremoni hon wedi bod mor arbennig i ni fel Eisteddfod, a bod bardd, a cherdd mor glodwiw wedi cyrraedd y brig!”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.















































