Dywedodd Prif Wedinidog Cymru, Eluned Morgan: “Mae fy meddyliau gyda phawb a fu’n rhan o’r digwyddiad rheilffordd ym Mhowys yn gynharach heno.
“Hoffwn ddiolch i’r gwasanaethau brys am eu hymateb ac rwyf wedi gofyn am gael gwybod am unrhyw ddatblygiadau drwy gydol y nos.”
Yn ôl trigolion lleol mae ambiwlansys ac ambiwlans awyr wedi cyrraedd y safle ac yn ôl adroddiadau fe gyrhaeddodd hofrennydd gwylwyr y glannau Rescue 936 y lleoliad yn hwyr nos Lun.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cadarnhau bod diffoddwyr tân yn ymateb i’r digwyddiad.
Dywedon nhw eu bod wedi’u galw wedi iddyn nhw gael eu hysbysu am ddamwain trên am 19:34 ond maen nhw wedi gwrthod gwneud sylw pellach.
Dywed Trafnidiaeth Cymru y bydd y gwasanaethau rhwng Amwythig ac Aberystwyth yn cael eu canslo am y tro ond byddan nhw’n darparu dull arall o deithio rhwng y ddau le.
Oherwydd bod ffyrdd ar gau, ni fydd y gwasanaeth yn galw yng ngorsaf Caersws am y tro.














































