Roedd Mr Ben Yusaf dan deimlad yn sôn sut wnaeth alw ar rywun gerllaw i ddod i helpu, ac fe gariodd blentyn anymwybodol o’r car a’i roi i lawr wrth ochr y ffordd.
Daeth mwy o bobl, meddai, ac aeth i weld sut roedd ei frawd, gan ddarganfod ei fod wedi gadael y BMW ac yn eistedd yn ei Audi.
“Doedd e ddim yn edrych yn dda… doedd e ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd na lle’r oedd e…
“Meddyliais i, mae angen i mi gael rhywun i’w weld, dydw i ddim yn gwybod maint yr anafiadau.
“Roeddwn i mewn sioc a phanig.”
Dywedodd Mr Ben Yusaf na ffoniodd 999, ond gyrrodd tuag at y Trallwng, gan ffonio ei frawd hŷn ar ei ffôn symudol drwy’r car ar y ffordd i ddweud ei fod yn mynd i’r ysbyty.
“Fe wnes i ddweud beth ddigwyddodd. Fe sylwodd fy mod i mewn panig ac fe wnaeth e geisio fy nhawelu.”
Parciodd mewn siop Tesco a mynd tu mewn i ddefnyddio’r toiled.
Dywedodd y brawd hynaf y dylen nhw ddychwelyd i safle’r gwrthdrawiad lle byddai ambiwlans.

















































