Mae dyn 63 oed wedi marw mewn digwyddiad ar fferm yn Sir Gâr.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, bu farw’r dyn fore Llun, 21 Ebrill, tra’n gweithio ar y fferm yn ardal Llanpumsaint.
Fe ddywedon nhw fod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a’r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch eu bod yn “ymwybodol o’r digwyddiad ac yn cefnogi Heddlu Dyfed-Powys”.

















































