Wrth gadarnhau’r cynnig i symud y cyrsiau o Lambed, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant bod nifer y myfyrwyr sydd gan y brifysgol “yn gyffredinol yn tyfu” ond “nid ydynt wedi’u dosbarthu’n gymesur ar draws ein campysau gwahanol”.
Ychwanegodd llefarydd mai bwriad y cynnig i symud cyrsiau i Gaerfyrddin yw sicrhau “parhad yr addysg a ddarperir i’n holl fyfyrwyr gyda’r bwriad o wella profiad y myfyrwyr yn gyffredinol a grymuso cyflwyniad ac ansawdd ein rhaglenni”.
“Mae’r brifysgol wedi ymrwymo i gadw prif ystâd y campws yn Llambed a chanfod dulliau amgen o gynnig gweithgareddau sy’n ymwneud ag addysg a fydd yn rhoi bywyd newydd a dyfodol mwy diogel i’r campws,” meddai’r llefarydd.
“Bydd ein trafodaethau yn cymryd i ystyriaeth sut i wasanaethu lles gorau ein myfyrwyr, staff a’r gymuned yn Llambed tra hefyd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy’r sefydliad.”














































