Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Andy Gibson o Heddlu’r Gogledd bod eu meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau’r ddwy.
“Mae ymchwiliad yn parhau i ddarganfod yr hyn a ddigwyddodd,” meddai.
“Rydym yn apelio am unrhyw un a oedd yn cerdded yn ardal Llwybr Watkin rhwng 18:00 a 21:00 neithiwr i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru.”
Mae’r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Dywedodd Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, Jurgen Dissmann, fod “hon yn alwad gymhleth ac anodd i’r tîm”.
“Hoffem ddiolch i’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys a Thîm Achub Mynydd Aberglaslyn am eu cefnogaeth a’u cymorth parhaus yn ystod yr alwad hon,” meddai.

















































