Yn 2024/25 fe wnaeth 20,445 o bobl gwblhau cyrsiau gyda’r Ganolfan, gyda 61% o’r rheiny yn gwneud cwrs Mynediad a Chyn-Mynediad.
Mae’r Ganolfan, sy’n cael ei arolygu gan Estyn, hefyd yn cynnig cyrsiau ar lefelau Sylfaen, Canolradd, Uwch, a Gloywi.
Ychydig dros 18,000 wnaeth gwblhau cyrsiau yn 2023/24, tra bod y nifer llynedd yn gynnydd o 61% ar y 12,500 fu’n dysgu Cymraeg yn 2017/18.
Roedd bron i hanner y dysgwyr yn gwneud hynny drwy ddosbarthiadau wyneb-yn-wyneb a rhithiol yn y gymuned, gyda 39% yn dysgu drwy’r gwaith, a 5% yn defnyddio cynllun penodol i deuluoedd.















































